The Dragon Innovation partnership - Partneriaeth Arloesi'r Ddraig

Gyrrwch eich sefydliad ymlaen

Mae Partneriaeth Arloesi’r Ddraig yn brosiect cydweithredol rhwng Prifysgol Fetropolitan Abertawe, Prifysgol Abertawe a Prifysgol Cymru Y drindod Dewi Sant, sy’n anelu at uchafu’r cyfleoedd ar gyfer trosglwyddo gwybodaeth ac arbenigedd rhwng y prifysgolion a chwmnïau a sefydliadau allanol.

Gallem eich cynorthwyo i gael mynediad at arbenigwyr perthnasol yn y prifysgolion er mwyn trafod eich anghenion datblygu, cefnogi a dysgu.

A hoffech ehangu’ch busnes? Neu ddatblygu eich staff? Neu weithio ar broblem benodol? Beth am dderbyn cyngor technegol? Neu ehangu eich cymuned? Edrychwch ar y ffyrdd y gallwn ni eich helpu chi – cliciwch ar cefnogi a datblygu nawr.

The dragon Team

"Mae fy mhrofiad o weithio gyda Phrifysgol Abertawe wedi galluogi fy nghwmni i fynd y tu hwnt i’r hyn y gallem fod wedi’i gyflawni ar ein pennau’n hunain."

[Norman Faulkner, Cambrian Printers, Aberystwyth]

"Roedd Prifysgol Fetropolitan Abertawe yn gefnogol i’n busnes o’r adeg gyntaf i ni fynd atynt gyda’n syniad busnes, a, chwe mlynedd yn ddiweddarach, rydym yn dal i elwa wrth y berthynas agos sydd rhyngom."

[Dawn Lyle, Rheolwraig Gyfarwyddwraig, iCreate Ltd]