The Dragon Innovation partnership - Partneriaeth Arloesi'r Ddraig

Amdanom ni

Mae Partneriaeth Arloesi’r Ddraig yn gweithredu gyfochr â’r prosiect Partneriaeth Addysg Uwch De Orllewin Cymru (PAUDOC) ehangach sy’n bodoli rhwng y tair prifysgol.  Mae’r ddau brosiect yn unedig o ran eu nod i hyrwyddo gweithio cydweithredol rhwng y tri phartner.
 
Mae’r ddau brosiect yn cael eu cyllido gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), ond mae gan Bartneriaeth Arloesi’r Ddraig gyllid uniongyrchol sylweddol ar gyfer cefnogi, hyrwyddo a datblygu perthynas gyda grwpiau allanol.

Mae’r bartneriaeth yn wahanol i brosiectau’r PAUDOC am fod ganddo dîm rheoli prosiect gwahanol ac mae’n adrodd i’w grwp llywio ei hun, yn ogystal ag i’r Bwrdd Rheoli PAUDOC ar gyfer cyfeiriad strategol.

Chris Talbot yw Rheolwr y Bartneriaeth.  Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, peidiwch ag oedi rhag cysylltu gyda Chris ar 01792 513708 neu c.g.talbot@swansea.ac.uk.