Cyfleoedd cymorth a datblygu
Gallai Partneriaeth Arloesi’r Ddraig gynorthwyo gyda’r gwaith o ddatblygu agweddau penodol o’ch busnes neu sefydliad.
Mae gan brifysgolion arbenigwyr yn eu maes mewn amrediad eang o bynciau sy’n gallu bod yn adnodd gwerthfawr i fusnesau.
Nod Partneriaeth Arloesi’r Ddraig yw rhoi cyngor i chi p’un ai oes arbenigwyr ar gael oddi fewn i’r tair prifysgol sy’n gallu cynnig yr arbenigedd priodol er mwyn diwallu eich anghenion. Pan fydd hyn wedi’i sefydlu, gall y Bartneriaeth gynorthwyo trwy ddatblygu pecyn cefnogi cynhwysfawr, sydd wedi’i deilwra ar gyfer eich anghenion.
Mae ehangder yr wybodaeth a’r arbenigedd sydd ar gael oddi fewn i’r sefydliadau yn caniatáu i’r bartneriaeth gynnig cyngor a chefnogaeth ar amrywiaeth o themâu, gan gynnwys …
• Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth
• Academia a gyllidwyd gan Gynulliad Cymru ar gyfer cynlluniau busnes
• Dulliau eraill o gyllido trosglwyddiad gwybodaeth gydweithredol
• Hyfforddiant a dysgu gwaith seiliedig
• Datblygu cymunedol
• Datrys problemau technegol
• Adnabod dulliau busnes newydd
• Datblygu sgiliau
• Ymgynghoriaeth busnes a thechnegol
• Datblygu ymchwil
Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda sefydliadau diwylliannol, cymunedol a sector cyhoeddus er mwyn annog ymrwymiad uwch gyda’r sector addysg uwch yn Ne Orllewin Cymru.
Cysylltwch â n
Er mwyn hybu eich busnes neu os am wybod mwy am y ffordd y gall Partneriaeth Arloesi’r Ddraig eich cynorthwyo, cwblhewch y ffurflen hon. Rydym yn anelu i ymateb i’ch ymholiadau yn ystod y diwrnod gwaith canlynol.