Latest News and Events
Engineering: Skills for Business Growth and Sustainability - Engineering: Skills for Business Growth and Sustainability - Neuadd Sgeti 7 Hydref, 7.45am i 10am
Wed, 22 Dec 2010 12:02:00 GMT
Mae’n bleser gan Bartneriaeth Arloesi’r Ddraig a Choleg Gwyr Abertawe gyhoeddi ei digwyddiad brecwast busnes sydd ar ddod - Engineering: Skills for Business Growth and Sustainability.
Bydd y digwyddiad yn gyfle i drafod gyda ni'r diweddaraf o ran y gefnogaeth a’r cyfleoedd hyfforddi sydd ar gael mewn Peirianneg/Cynhyrchu ar draws y sectorau addysg Bellach ac Uwch.
Mae’r siaradwyr gwadd canlynol wedi’u cadarnhau:
Ian Smith [SEMTA, Y Gynghrair Gwyddoniaeth, Peirianneg, a Thechnolegau Gweithgynhyrchu]
Chris Talbot [Partneriaeth Arloesi’r Ddraig – cydweithrediad rhwng Prifysgol Fetropolitan Abertawe, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant]
Bydd cynrychiolwyr o Go Wales a Llywodraeth Cynulliad Cymru hefyd ar gael i drafod y cyfleoedd ariannu sydd ar gael ar gyfer eich anghenion hyfforddiant busnes.
Bydd timoedd profiadol o gyfadrannau Peirianneg Coleg Gwyr Abertawe, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe ar gael i drafod yr amrywiaeth o gyfleoedd cymorth ac hyfforddiant.
Bydd gwybodaeth ar gael ym meysydd Peirianneg Uwch a Chynhyrchu yn ogystal â Dylunio Modurol, Peirianneg Fecanyddol a Dylunio Cynnyrch.
A oes gennych ddiddordeb mewn pecyn cymorth sydd wedi’i deilwra ar gyfer eich busnes? Gall Partneriaeth Arloesi’r Ddraig eich helpu, drwy ddefnyddio arbenigedd a gwybodaeth helaeth ei dri phartner sefydledig. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Louise Lowre ar l.e.lowrie@abertawe.ac.uk neu 01792 602962.